Croeso i’r wefan cyfrwng Cymraeg Ysgol Chwaraeon, Neil Hennessy ydw i a dwi’n uwch ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr ar y Rhaglen Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol.
Mae’r Ysgol wedi cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ers 2007. Mae tîm o staff cyfrwng Cymraeg sydd yn arbenigo yn y meysydd canlynol: pedagogeg, ffisioleg, moeseg, addysg gorfforol, iechyd a lles, hyfforddi a maeth chwaraeon ac ymarfer corff.
Mae myfyrwyr AChAG a GCIaLl yn cael profiad cyfrwng Cymraeg trwy gydol y tair blynedd. Cynhelir darlithoedd, seminarau a sesiynau ymarferol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae Tiwtor Personol cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr.
E-bost: nhennessy@cardiffmet.ac.uk
Trydar: @DrNeilJHennessy @CardiffMetAChAG
Croeso i’r wefan cyfrwng Cymraeg Ysgol Reolaeth Caerdydd, Kelly Young ydw i a dwi’n Uwch-ddarlithydd Busnes a Thwristiaeth ar gampws Llandaf. Mae’r ysgol wedi darparu modiwlau cyfrwng Cymraeg o fewn y cyrsiau Busnes, Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau am dros 7 mlynedd gydag opsiynau i astudio o leiaf 1/3 o’r radd yn y Gymraeg.
Mae’r darlithwyr i gyd yn arbenigwyr pwnc o fewn y meysydd Marchnata, Rheoli Adnoddau Dynol, Arweinyddiaeth, Cynaliadwyedd, Twristiaeth, Strategaeth ac Ymchwil gyda phrofiad eang o fewn y byd busnes ac fel darlithwyr profiadol.
Yn ogystal â’r gymuned academaidd, mae Gym Gym Met Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gymdeithasu gyda’u cyd-fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ystod o ddigwyddiadau fel nosweithiau comedi, teithiau dramor a digwyddiadau rygbi a chwaraeon.
E-bost: kyoung@cardiffmet.ac.uk
Croeso i’r wefan cyfrwng Cymraeg, Huw Williams ydw i a dwi’n ddarlithydd yn yr ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Mae’r Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn falch iawn i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio’r Gymraeg. Mae cyfle i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf i astudio hyd at 40 credid o unrhyw gwrs israddedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y modiwl Maes a rhan o fodiwl Chyster (Constellation) ar gael yn yr iaith, a chefnogwyd astudiaethau modiwl Pwnc gan diwtorialau unigol a grŵp. Mae tiwtorialau personol hefyd ar gael yn Gymraeg.
Mae gan yr Ysgol gymuned o fyfyrwyr a staff sy’n siarad Cymraeg. Cynlluniwyd y ddarpariaeth yma yn ofalus i sicrhau eich bod yn buddio o ddefnyddio’r Gymraeg gan hefyd fwynhau’r ystod o gyfleoedd addysgiadol dwyieithog sydd ar gael.
Mae croeso cynnes i chi i fynychu diwrnod agored ar gampws Llandaf a byddaf ar gael am sgwrs anffurfiol am ein darpariaeth ac opsiynau astudio yn y Gymraeg. Edrych ymlaen i gwrdd a chi.
E-bost: hrwilliams@cardiffmet.ac.uk
Croeso i’r wefan cyfrwng Cymraeg Ysgol Addysg Caerdydd, Dyddgu Hywel ydw i ac dwi’n ddarlithydd ar y cwrs Addysg Gynradd.
Mae’ r Ysgol Addysg yn ymfalchio yn y ddarpariaeth Gymraeg ym Met Caerdydd, gydag aelodau staff cyfrwng Cymraeg yn gweithio’n galed i sicrhau darpariaeth o’r radd uchaf. Erbyn hyn, mae sawl cwrs gradd o fewn yr Ysgol Addysg ar gael yn ddwyieithog, gyda’r ddarpariaeth a chefnogaeth yn hyblyg i siwtio’r dysgwr.
Rydym yn sicrhau ein bod yn cynnig cyfle cyfartal, ac yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflwyno asesiadau, derbyn cefnogaeth tiwtor personol, darpariaeth modiwlau yn eu hiaith ddewisiol.
Mae’r ddarpariaeth yn cynnig cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau, ymweliadau a phrofiadau gwaith trwy’r Gymraeg a’r Saesneg.
E-bost: dhywel@cardiffmet.ac.uk
Croeso i’r wefan cyfrwng Cymraeg, Dr Mirain Rhys ydw i a dwi’n ddarlithydd yn yr Adran Seicoleg Gymhwysol, sy’n rhan o’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae’r Adran Seicoleg wedi bod yn datblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ers mwy na blwyddyn bellach, ac yn gallu cynnig amrywiaeth o ddarpariaeth i fyfyrwyr drwy gydol eu cyfnod israddedig.
Rydym eisoes yn cynnig grŵp tiwtor cyfrwng Cymraeg yn Lefel 4 (ac ar gyfer lefelau 5 a 6 hefyd), cyfleoedd lleoliad gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg yn Lefel 5 + 6, a’r cyfle i wneud prosiect ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg yn Lefel 6.
Yn ogystal â hyn, o 2020 bydd cyfle i astudio 40 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob lefel o’r radd israddedig. Bydd cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a sesiynau grŵp yn cynnig trawstoriad o brofiadau addysgu i’n myfyrwyr.
Rydym yn lwcus i gael grŵp o arbenigwyr brwdfrydig sy’n angerddol am addysg uwch drwy’r Gymraeg yn gweithio o fewn yr adran, ac mae’r tîm wedi gweithio’n galed i sicrhau dilyniant o weithgareddau a modiwlau drwy’r Gymraeg fel rhan o’r radd israddedig.
Mae’r ddarpariaeth yn cyd-fynd gyda’r angen i lenwi bylchau mewn nifer i broffesiwn sydd yng nghlwm a Seicoleg yng Nghymru ac mae ein modiwl profiad gwaith unigryw yn gyfle i ymarfer yr hyn sydd yn cael ei addysgu i chi.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r adran!
E-bost: MRhys@cardiffmet.ac.uk