Mae nifer o fanteision dros ddewis astudio cwrs yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg:
• Cyfle i dderbyn arian ychwanegol
• Bod yn rhan o grwpiau llai eu maint
• Cyfle i ddatblygu terminoleg arbenigol mewn dwy iaith
• Datblygu sgiliau dwyieithog a fydd o fantais i ti wrth chwilio am swydd yn y dyfodol
• Ar gyfartaledd, mae cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch
“Yn fy marn i mae astudio’n ddwyieithog yn fantais fawr. Mae’n eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau a fydd yn y pen draw yn ddeniadol wrth chwilio am swydd yn y dyfodol ac yn bendant dwi wedi elwa llawer o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg” – Cathrin Jones
Ba (Anrh) Busnes A Rheolaeth Gyda Rheoli Adnoddau Dynol
Pa gymorth sydd ar gael?
Os nad wyt ti’n teimlo’n ddigon hyderus i astudio cwrs yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, mae nifer o gyrsiau ar gael sy’n cynnig opsiwn i ti astudio rhan o dy gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae cefnogaeth ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn eu cynorthwyo i wella eu sgiliau iaith lafar ac ysgrifenedig.